ENGLISH

Croeso i wefan BWY Cymru

Croeso cynnes i'n gwefan. Gobeithio y bydd edrychiad y wefan yn eich plesio ac y bydd yr wybodaeth sydd arno yn ateb eich gofynion fel aelodau o Gylch Ioga Prydain (BWY), athrawon ioga neu unrhywun arall sydd eisiau dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â dosbarthiadau a digwyddiadau ioga yng Nghymru.

Mae ioga yn addas i bawb, beth bynnag fo'u hoedran, rhyw, cyflwr corfforol, meddyliol ac emosiynol, sefyllfa ariannol neu eu credoau. Yma yng Nghymru mae gennym lawer o athrawon profiadol, gwybodus a thosturiol sydd yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ledled y wlad. Gobeithio, drwy ddarllen ein gwefan, y darganfyddwch yr athro, y dosbarth neu'r digwyddiad yr ydych yn chwilio amdano.

Gall ioga gynnig llu o fuddianau ac mae rhain yn cynyddu wrth i'r ymarfer gynyddu. Yn y Gorllewin, 'rydym fel arfer yn dod at ioga drwy'r ymarferion corfforol sydd yn eu tro yn arwain at ddaioni meddyliol ac emosiynol. Mae'r ymarferion ymestyn a'r asanas (ystumiau ioga) syml a chymedrol yn rhyddhau tensiwn o'r cyhyrau ac yn cynyddu hyblygrywdd, cryfder a stamina. Mae ymarferion ymlacio yn helpu'r corff i ryddhau tensiwn. Mae ymarferion anadlu syml yn annog tawelwch meddyliol ac yn arwain at ymarferion myfyrio syml sydd yn ein cynorthwyo i ddatblygu llonyddwch mewnol.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ioga gymaint ag yr ydym ni.